Cydweithio i sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel yn eich cartref chi

Er bod pandemig y coronafeirws yn parhau i effeithio ar y DU, mae crefftwyr wedi cael gwybod eu bod yn gallu gweithio yng nghartrefi pobl ac o'u cwmpas o hyd.

Er mwyn hyrwyddo gweithio diogel, mae gan y llywodraeth a diwydiant ganllawiau ysgrifenedig ar gyfer y gweithwyr hyn. Ond mae cadw'n ddiogel yn gyfrifoldeb ar y cyd, ac mae gan bob un ohonom ni ddyletswydd i amddiffyn ein gilydd.

Drwy gydweithio, gallwn gadw pawb yn ddiogel.

Work Safe Safe Work

Bydd y canllaw tair rhan yma’n eich helpu chi i wybod beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl i chi gael gweithwyr yn gweithio i chi.

Dilynwch bob cam er mwyn hybu gweithio diogel yn eich cartref ac o’i amgylch.

Cofiwch ofyn i’ch gweithiwr os oes unrhyw beth rydych chi’n ansicr yn ei gylch.

Datblygwyd gan

Trust Mark

Cefnogwyd gan

CLC

Step 1
 

Rhaid i chi fod yn sicr nad oes gennych chi nac unrhyw un sy’n byw yn eich cartref symptomau COVID-19. Gall gwefan y GIG eich helpu chi gyda hyn: www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/symptoms/

Os byddwch yn profi’n bositif, mae eich cyfnod hunanynysu yn dechrau’r diwrnod y bydd eich symptomau’n dechrau a’r 10 diwrnod canlynol. Unwaith y byddwch yn profi’n negyddol, gall gwaith barhau yn eich cartref. Gweler gwefan y GIG am fanylion llawn When to self-isolate and what to do – Coronavirus (COVID-19) – NHS (www.nhs.uk)

Siaradwch â’ch masnachwr cyn iddynt ymweld â’ch cartref. Rhowch wybod iddynt os oes gennych unrhyw bryderon neu os oes angen unrhyw beth arnynt i wneud iddynt deimlo’n ddiogel.

Sicrhewch gyn lleied â phosib o gyswllt wyneb yn wyneb drwy ddefnyddio ffonau neu ddyfeisiadau tabled gyda chamerâu er mwyn cael sgyrsiau gyda gweithwyr ar-lein.

Gofynnwch pa gyfarpar diogelu personol (PPE) fydd y gweithiwr yn eu defnyddio, fel menig a masgiau os oes angen.

Os ydych chi’n agored i niwed yn glinigol, dywedwch hynny wrth y gweithiwr fel ei fod yn gallu cymryd gofal ychwanegol.

Fel erioed, cofiwch gytuno i gwmpas a phris y gwaith yn ysgrifenedig cyn bwrw ymlaen.

Y masnachwr i barhau i gadw pellter cymdeithasol a sut y gallwch helpu i wneud iddynt deimlo’n ddiogel hefyd

Sut bydd yn sicrhau eich bod chi ac ef wedi’ch diogelu

Sut mae’n bwriadu gwneud y gwaith yn eich cartref

Os yw’r gweithiwr a’i dîm yn sicr nad oes ganddynt COVID-19 ac wedi osgoi cyswllt ag unrhyw un sydd â’r feirws


Step 2
 

Diheintiwch y drysau a’r handlenni yn ddyddiol cyn ac ar ôl i’r gweithiwr ddod i’ch cartref chi.

Cydweithio i ddiogelu ei gilydd drwy barchu dewis pobl i barhau i gadw pellter cymdeithasol.

Os oes raid i chi fod yn agos at eich gilydd, arhoswch ochr yn ochr yn hytrach na wynebu eich gilydd.

Mae gwaith caled y gweithiwr yn haeddu paned bob amser, gwnewch yn siŵr eich bod yn ofalus a dim ond cyffwrdd yr handlen wrth wneud y baned, ac ar ôl iddo orffen y ddiod, golchwch y mwg yn syth gyda dŵr poeth a sebon.

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi wedi dal yr haint, neu’n amau hynny, tra mae’r gwaith yn cael ei wneud, dywedwch wrth y gweithiwr a stopio’r holl waith. Wedyn dilynwch weithdrefnau’r llywodraeth a hunanynysu nes ei bod yn ddiogel i’r gwaith ailddechrau eto.

I’r gweithiwr sefyll yn bellach i ffwrdd os ydych chi’n teimlo ei fod yn torri’r rheolau cadw pellter cymdeithasol

I’r gweithiwr ddiheintio ei holl offer cyn ac ar ôl eu defnyddio, ac iddo ddefnyddio ei ddiheintydd dwylo ei hun drwy gydol y dydd

I’r gweithiwr ddiogelu unrhyw ardaloedd yn y tŷ lle mae’n gweithio

I’r gwaith stopio os oes risg bosib o gael yr haint drwy ddal ati


Step 3

Diheintiwch yr holl ardaloedd lle mae’r gweithiwr wedi bod yn gweithio, yn enwedig y drysau a’r handlenni.

Cadwch y taliadau a’r gwaith papur yn electronig neu’n ddigyswllt.

Cysylltwch â’r gweithiwr i’w rybuddio os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich cartref yn dangos arwyddion o COVID-19 o fewn wythnos i’r gwaith gael ei orffen.

I’r gweithiwr sicrhau bod yr holl ardaloedd yn glir, yn lân ac yn ddiogel

Am fanylion banc y gweithiwr fel eich bod yn gallu talu iddo gan ddefnyddio bancio ar-lein os yw hynny’n bosib


CRYNODEB

CYN

Byddwch yn sicr bod eich gweithiwr, chi, ac unrhyw un rydych yn byw gydag ef yn glir o symptomau COVID-19

Gofynnwch pa PPE a dulliau diheintio fydd yn cael eu defnyddio gan eich gweithiwr

YN YSTOD

Diheintio handlenni’r drysau ar ddechrau a diwedd pob diwrnod pan mae gweithwyr yn gweithio yn eich cartref

Cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol bob amser

AR ÔL

Talu’n electronig gan ddefnyddio bancio ar-lein os yw hynny’n bosib

Rhoi gwybod i’ch gweithiwr os byddwch chi neu unrhyw un arall yn eich cartref yn datblygu symptomau COVID-19 o fewn 14 diwrnod i gwblhau’r gwaith.

Cofiwch ofyn i’r gweithiwr yn eich tŷ os ydych chi’n ansicr am unrhyw beth

Rhannwch eich gwaith diogel gyda ni gan ddefnyddio’r hashnod #worksafesafework


Trust Mark CLC

TrustMark yw’r Cynllun Ansawdd sydd wedi’i Gymeradwyo gan y Llywodraeth ar gyfer gwaith rydych chi wedi’i wneud yn eich cartref ac o’i amgylch.

Mae’r Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu yn sbarduno unrhyw drawsnewid gyda’r nod o wella’r diwydiant adeiladu yn y DU.

Ochr yn ochr â diwydiant, rydyn ni wedi datblygu’r canllaw hwn er mwyn helpu i gael y wlad yn gweithio eto.

Os ydych chi’n fusnes fyddai’n hoffi cymryd rhan, llenwch y ffurflen isod.


    Friends Against Scams

    Friends Against Scams is a National Trading Standards Scams Team initiative, which aims to protect and prevent people from becoming victims of scams by empowering people to take a stand against scams. TrustMark is a supporter of the Friends Against Scams initiative. For more information please click here.